01234 815658

Cydlynydd yr iaith Gymraeg

Remote

Reference:8352

Sector:Education

Salary:£27,500 to £29,000 Per Annum

Job Type:Contract

Closing Date:18/05/2026

Share this Job

Cydlynydd yr iaith Gymraeg

Mae gennym gyfle cyffrous am Gydlynydd yr iaith Gymraeg i gefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a  gwaith chwarae hefo sgiliau'r iaith Gymraeg.

Swydd: Cydlynydd yr iaith Gymraeg

Lleoliad: O Gartref a bydd angen teithio gyda’r swydd

Oriau: Rhan amser, 22.5 awr yr wythnos

Cyflog: £27,500-29,000HLA y flwyddyn

Hyd: Tymor sefydlog hyd at 31 Mawrth 2027 gydag, estyniad posib yn amodol ar gyllid

Budd-daliadau: Yn cynnwys 26 diwrnod tal o wyliau (codi i 30 diwrnod yn unol â hyd wasanaeth ynghyd a 8 g yl banc) , cynllun pensiwn personol, Cynllun arian parod gofal iechyd, cynllun disgownt ar-lein, rhaglen cymorth i weithwyr, ynllun gwobrau Staff, tal salwch  cwmni a phatrwm gweithio hyblyg yn bosib.

Y Rôl

Fel Cydlyndd yr Iaith Gymraeg fyddwch yn chefnogi ymarferwyr y sector blynyddoedd cynnar,  gofal plant a chwarae, gyda’r iaith Gymraeg. Cytunir ar dargedau yn flynyddol rhwng llywodraeth Cymru a phartneriaid elusennol. Fyddwch yn cydlynu’r prosiect Iaith Gymraeg yr elusen, yn annog aelodau i ddysgu'r iaith Gymraeg ar-lein a darparu cefnogaeth barhaus i ymarferwyr i gynyddu eu defnydd or Iaith Gymraeg.

Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys cefnogi’r sefydliad yn eang a’n cwsmeriaid yn y DU a’n cwsmeriaid rhyngwaladol drwy:

  • Sefydlu a rheoli gweithdrefnau a systemau cadarn i gefnogi cydlynu, darparu a monitor prosiect yr iaith Gymraeg
  • Nodi lleoliadau a recriwtio ymarferwyr ar gyfer darparu cyrsiau hyfforddi
  • Hyrwyddo datblygiad sgiliau Cymraeg drwy roi gwybodaeth am y cwrs hunan-astudio ar-lein, ac annog ymarferwyr i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant
  • Rhoi cymorth i ymarferwyr i sicrhau bod dysgu o’r hyfforddiant yn cael ei weithredu yn y gweithle
  • Datblygu adnoddau i sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar ymarfer
  • Cyflwyno sesiynau rhyngweithiol gydag ymarferwyr a phartneriaid arall
  • Casglu data, monitro ac olrhain cynnydd y chyfranogwyr
  • Darparu adroddiadau ysgrifenedig yn nodi y cynnydd yn erbyn targedau
  • Cynal ymweliadau mewn sefydliadau sydd efo aelodaeth yng Ngogledd Cymru i nodi lleoliadau a allai fod eisiau trosglwyddo i statws dwyieithog neu statws gyfrwng Cymraeg

Amdanoch Chi

I fod yn llwyddiannus yn y rôl bydd angen y sgiliau canlynol arnoch:

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Gwydodaeth am fudd a gwerth y Gymraeg yn y sector blynyddoedd cynnar
  • Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau TGCH gan gynnwys Microsoft Office / Excel
  • Sgiliau gweinyddol rhagorol gyda sylw i fanylion
  • Gallu meithrin perthnasoedd yn hawdd a chyfathrebu ar bob lefel,  gan gynnwys y gallu i ddefnyddio iaith a sgiliau cyfathrebu eraill y gall plant ifanc iawn eu deall ac gallynt ymwneud a.
  • Brwdfrydedd dros y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleodd gwaith chwarae
  • Y gallu i gwrdd â therfynau amser a blaenoriaeth llwyth gwaith
  • Yn weithiwr tîm a rhwydwaithiwr brwdfrydig, hunangymhellol a trefnus
  • Y gallu i weithio'n annibynnol a defnyddio eu menter eu hunain
  • Y gallu i drefnu a blaenoriaethu gwaith gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl

Er mwyn gyflawni'r rôl hon mae'n rhaid bod gennych y defnydd o'ch trafnidiaeth eich hun a'r gallu i deithio yn ôl yr angen.

I wneud cais, gofynnir i chi gyflwyno eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol sy'n manylu ar sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad yn bodloni gofynion y rôl.

Yngl n â'r Sefydliad

Mae'r sefydliad yn elusen genedlaethol ac yn gymdeithas aelodaeth yn gymdeithasol ar gyfer meithrinfeydd.  Maent yn gweithio mewn partneriaeth a meithrinfeydd, awdurdodau lleol ac ystod o bartneriaid i ddatblygu amgylchedd lle gall dysgu cynnar a gofal ffynnu.

Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i bolisi o gyfleoedd cyfartal ac yn mynd ati i wrthwynebu gwahaniaethu mewn cymdeithas.

Efallai y bydd gennych chi brofiad mewn meysydd fel Swyddog Cymorth Cymraeg, Rheolwr Prosiect Siarad Cymraeg, LSA Siarad Cymraeg, Cynorthwyydd Dysgu Cymraeg, Cyfieithydd Cymraeg, Athro'r Gymraeg, etc.

©  Copyright Not for Profit Jobs  2026. All Rights Reserved.